Skip to main content
8 Medi 2024

Castell Coch - Nos Galan Gaeaf

Amser

6pm–8pm / 8.30pm–10.30pm

Lleoliad

Castell Coch

Mae Calan Gaeaf ar gyfer oedolion hefyd!

Ymunwch â ni ar gyfer archwiliad pŵl a thywyll gyda’r nos o amgylch y castell tylwyth teg hwn. Crwydrwch y tu mewn i furiau cartref ffantasi gothig yr Ardalydd Bute o Gyfnod Fictoria a gwrandewch ar straeon iasoer am ddigwyddiadau arswydus gan ein tywyswyr arbenigol.

Ymunwch â ni am 6pm neu 8:30pm am daith gerdded ddwyawr o amgylch castell ffantasi’r Butes!

Tocynnau: £22 

(oedolion yn unig)

  • bydd yno oleuadau cyfyngedig er mwyn helpu i greu awyrgylch addas ar gyfer y digwyddiad
  • bydd y daith yn symud dros dri llawr yn y castell ar hyd grisiau troellog cul
  • os ydych wedi archebu eich lle ar-lein, dewch â phrawf o’ch archeb
  • mae parcio am ddim ac o flaen y castell.