Skip to main content

Diolch am eich archeb.

Mae gwybodaeth am docynnau a brynwyd ar-lein, nwyddau o’r siop ac ad-daliadau isod. Efallai yr hoffech chi arbed/tynnu llun o’r dudalen hon ar gyfer y dyfodol.

Ceir manylion am unrhyw beth a brynwyd ar wefan Cadw, gan gynnwys aelodaeth, nwyddau o’r siop a thocynnau yn MyCadw trwy fynd i: https://www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/?force=2

 

Gwybodaeth bwysig am eich archeb

Os ydych wedi prynu tocynnau ar gyfer digwyddiad, caiff y rhain eu hanfon drwy e-bost. Os nad ydych wedi derbyn eich e-docynnau o fewn awr o gwblhau eich trafodiad, gwiriwch ffolderi sothach / sbam, neu mewngofnodwch i FyCadw. 

Ni ellir ad-dalu tocynnau; ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad, amser neu safle arall ac ni ellir eu trosglwyddo i unrhyw leoliad neu ddigwyddiad. 

Dylech gyrraedd gyda'ch tocynnau wedi'u printio o flaen llaw neu ar eich dyfais symudol er mwyn cael mynediad. 

Weithiau mae rhai safleoedd ar gau am resymau sydd tu hwnt i’n rheolaeth ni, gallwn ni gynnal diwrnodau mynediad am ddim a / neu ddigwyddiadau arbennig. Ewch i

wefan Cadw, ein cyfrifon Facebook neu Twitter  neu ffoniwch y safle cyn ymweld i sicrhau ei fod ar agor.

 

Os ydych chi’n aelod o Cadw ac yn prynu tocynnau er mwyn mynychu gyda gwesteion, cofiwch ddod â’ch cerdyn aelodaeth dilys er mwyn cael mynediad am ddim.

 

Am unrhyw ymholiadau eraill sy’n ymwneud â thocynnau, cysylltwch â

Cadwdigital@llyw.cymru

 

Ein polisi preifatrwydd tracio ac olrhain COVID-19


Diweddarwyd y polisi ddiwethaf ar 30 Gorffennaf 2020.

Mae’r polisi hwn yn manylu ar sut y mae Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cefnogi strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu  Llywodraeth Cymru i atal lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.

Fel rhan o hyn, hoffem eich sicrhau ein bod wedi ymrwymo i ddiwallu ein goblygiadau data yn unol â GDPR a byddwn yn parhau i ymdrin â’ch gwybodaeth yn ddiogel. 

Cadw (Llywodraeth Cymru) yw’r Rheolwr Data ar gyfer gwybodaeth yr ydych yn ei darparu ar ein cyfer fel sefydliad treftadaeth ac mae’n gyfrifol am gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data am y cyfnod yr ydym yn cadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata. Bydd Cadw (Llywodraeth Cymru) yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel rhan o'n tasg gyhoeddus.

 

Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu a sut?

 

Rydym yn casglu gwybodaeth gyswllt ar gyfer ein holl aelodau, ymwelwyr (gan gynnwys trefnwyr ysgolion a grwpiau), cwsmeriaid, cytundebwyr, gwirfoddolwyr, a staff sy’n dod i mewn i’n cyfleusterau neu yn eu defnyddio ar ein safleoedd treftadaeth sydd wedi eu staffio, gan gynnwys:

  • Enw
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad ac amser yr ymweliad

 

Caiff gwybodaeth gyswllt ar gyfer ein haelodau, ymwelwyr a chwsmeriaid ei chasglu wrth i chi archebu neu brynu tocynnau mynediad i safle trwy ein system archebu ar-lein newydd i safleoedd sydd wedi eu staffio.

Os byddwch yn ymweld fel rhan o aelodaeth sawl person neu fel rhan o grŵp, byddwn yn cofnodi’r manylion cyswllt ar gyfer yr ‘aelod arweiniol’ neu’r person sy’n prynu’r tocynnau ar-lein. Byddwn hefyd yn cofnodi’r nifer o bobl sydd wedi eu cynnwys yn yr archeb.

I wirfoddolwyr, contractwyr ac aelodau o staff, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth gyswllt yr ydych wedi ei darparu i ni ac sydd gennym ar gofnod, neu bydd gofyn i chi ddarparu eich gwybodaeth gyswllt pan fyddwch yn dod ar y safle.

 

Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?

Ni fyddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth gyswllt at ddibenion profi ac olrhain, oni bai eich bod wedi nodi fel arall wrth i chi archebu/prynu tocyn (megis er mwyn derbyn e-lythyr marchnata Cadw).

Os bydd angen i ni gasglu gwybodaeth na fyddem fel arfer yn ei chasglu wrth i ni weithredu, ni chaiff ond ei defnyddio at ddiben strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Oni bai i chi nodi fel arall, ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall fel marchnata.

 

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth?

Bydd Cadw’n cadw a phrosesu eich data archebu personol ar ddiben strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn unig - fel budd cyfreithiol, cyfreithlon.

 

Gyda phwy fydd eich gwybdoaeth yn cael ei rhannu a pham?

Nid fydd Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ond yn gofyn i Cadw am y wybodaeth hon lle y bo angen, naill ai oherwydd bod rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 wedi rhestru un o leoliadau Cadw fel lle y maent wedi ymweld ag ef yn ddiweddar, neu oherwydd bod un o leoliadau Cadw wedi ei enwi fel lleoliad achos lleol posibl o COVID-19.

Ni fyddwn ond yn rhannu’r wybodaeth hon os bydd gofyn amdani gan y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei rhannu mewn ffordd ddiogel.

Pan gaiff gwybodaeth ei rhannu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu eich awdurdod lleol er mwyn gweithredu’r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’ch awdurdod lleol fydd y Rheolwyr Data ar gyfer eich gwybodaeth bersonol ar y pwynt y byddant yn derbyn y data gan Cadw.

 

Pa mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybdoaeth?

Byddwn ni ond yn defnyddio a chadw eich gwybodaeth mor hir ag sydd ei angen at y diben y cafodd ei chasglu. Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu er mwyn caniatáu i ni gefnogi strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru, ei chadw am un diwrnod ar hugain ar ôl dyddiad eich ymweliad.

 

Beth yw eich hawliau cyfreithiol?

Mae caniatáu i ni rannu eich gwybodaeth gyda rhaglen Profi, Olrhain, Amddiffyn Llywodraeth Cymru yn help i ni gadw ein haelodau, ymwelwyr, cwsmeriaid, contractwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau o staff yn ddiogel.

Dim ond y rhai sydd wedi rhannu eu manylion at ddibenion Profi, Olrhain, Diogelu a ganiateir i mewn i'r safle.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • cael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi a'i gyrchu
  • i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Gwybodaeth gyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

 

Gellir cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data yn:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113    Gwefan: www.ico.gov.uk

 

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Gallai’r polisi preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru maes o law. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau i’r hysbysiad hwn, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar frig y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi hwn yn berthnasol i chi a’ch data yn syth. Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut y caiff eich data personol ei brosesu, byddwn yn cymryd camau rhesymol i adael i chi wybod.

 

 

Nwyddau o’r siop

Dim ond ar gyfer cludiant yn y DU mae’r prisiau. I drafod archebion tramor, e-bostiwch

CadwOnlineShop@llyw.cymru.

 

GWYBODAETH AM GLUDIANT

Cludiant safonol y DU (gan y Post Brenhinol neu Gludwr) £2.95

 

Cludiant Safonol

Yn berthnasol i gludiant safonol y DU yn unig – gallwch ddisgwyl cludiant gan y Post Brenhinol neu gludwr o fewn 7 diwrnod i archebu.

 

Gallai cludiant i ardaloedd diarffordd gymryd hirach, gan gynnwys y codau post canlynol: AB, BT, DD 8-11, HS, IV, KA 27-28, KW, PA20-23, 28-29, 31, 34, 41 ymlaen, PH8, 10, 16, 18 ymlaen, TR21-25, ZE.

 

Pryd fyddaf yn derbyn fy nwyddau?

Ar ôl i chi archebu ar-lein, byddwn ni’n anfon e-bost cadarnhau â’r pwnc ‘Siop Ar-lein Cadw – diolch am eich archeb’ atoch chi.

Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost hwn o fewn 24 awr i archebu neu os nad yw eich nwyddau wedi cyrraedd o fewn yr amser a nodir yn yr e-bost, e-bostiwch:

CadwOnlineShop@llyw.cymru.

 

Dychwelyd ac ad-dalu

 Ein polisi ad-dalu tocynnau ar-lein:

  • Gellirgweldprisiautocynnau, argaeleddtocynnau ac amseroeddagorsafleoedd ar cymru/cadw
  • Mae’n rhaid talu am docynnau a ffioedd archebu wrth archebu ac ni ellir cadw tocynnau heb dalu.
  • Ni ad-delir tocynnau ar-lein ar gyfer digwyddiadau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo gan Cadw, yn ad-delir yn llawn.
  • Ni ad-delir tocynnau mynediad dydd ar-lein.
  • Mae ein tocynnau mynediad dydd ar-lein yn ddilys am chwe mis ar ôl y dyddiad prynu. Defnyddiwch nhw cyn y dyddiad dod i ben os gwelwch yn dda, oherwydd ni allwn roi ad-daliad am docynnau sydd heb eu defnyddio.
  • Ni ellir cyfnewid, trosglwyddo nac ailwerthu tocynnau ar-lein er budd masnachol.
  • Efallai na fydd tocynnau sydd wedi eu difrodi neu eu haddasu yn ddilys ac na fydd y deiliad yn cael mynediad.
  • Efallai y gofynnir am brawf cyn hawlio rhai tocynnau a brynwyd ar-lein wrth fynd i mewn e.e. NUS
  • Ymddiheurwn nad yw talebau gostyngiad, cynigion hyrwyddo na chynigion eraill yn ddilys wrth brynu tocynnau ar-lein, gan gynnwys talebau Tesco Clubcard.
  • Mae plant o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim, felly nid oes angen tocyn mynediad dydd ar-lein er mwyn mynd i mewn.

Polisi dychwelyd ein siop:

Gobeithio eich bod wrth eich bodd gyda’ch archeb. Os hoffech ddychwelyd cynnyrch (heblaw am gyhoeddiadau) a brynwyd gennyn ni, gallwn ad-dalu neu gyfnewid.

 

Pwysig: Dim ond os yw cyhoeddiad yn ddiffygiol/wedi difrodi wrth gael ei gludo neu cyn ei anfon y gellir cael ad-daliad, neu os ydyn ni’n anfon y cyhoeddiad/au anghywir atoch chi.

Rhaid dychwelyd yr eitemau heb eu defnyddio, yn y pecyn gwreiddiol (gyda’r labeli) a’u dychwelyd o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich archeb. Mae’r polisi hwn yn ychwanegol at eich hawliau statudol a’ch hawliau defnyddiwr.

I drefnu dychwelyd eitem, e-bostiwch

CadwOnlineShop@llyw.cymru ble cewch God Dychwelyd a ffurflen ddychwelyd. Dylid dychwelyd nwyddau a’ch ffurflen ddychwelyd wedi ei llenwi at:

Manwerthu Cadw – Siop Ar-lein,
Uned 5/7 Cefn Coed,
Parc Nantgarw,
Caerdydd,
CF15 7QQ.

Anfonwch eich pecyn mewn ffordd ddiogel neu mewn ffordd y gellir ei holrhain a chadwch y prawf eich bod wedi ei bostio. Y cwsmer sy’n talu’r costau dychwelyd oni bai bod eitem yn ddiffygiol.

Os ydyn ni’n anfon eitem na wnaethoch chi ei harchebu (eitem “anghywir”), e-bostiwch ni a byddwn yn anfon taleb bostio wedi’i rhagdalu atoch er mwyn i chi ddychwelyd yr eitem.

Caiff pob ad-daliad ei brosesu o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad rydyn ni’n derbyn yr eitemau.

Caiff ad-daliadau eu had-dalu i’ch dull gwreiddiol o dalu tua deuddydd ar ôl cael eu prosesu. Yn dibynnu ar eich banc, gallai gymryd hirach i’r credyd ymddangos ar eich cyfriflen.

Noder: Os ydych chi wedi prynu eitem mewn siop Cadw ac eisiau ad-daliad, dim ond mewn siop y gellir prosesu hyn. Peidiwch â defnyddio’r broses uchod, os gwelwch yn dda.

 

Eitemau na ellir eu had-dalu na’u cyfnewid

Ni allwn gynnig ad-daliad na chyfnewid y nwyddau canlynol (os nad ydyn nhw’n ddiffygiol):

 

cyhoeddiadau; fel llyfrau tywys / pamffledi tywys

nwyddau darfodus; fel bwyd

nwyddau gofal personol

colur

gemwaith ar gyfer tyllau

CD, DVD neu fideos heb eu selio

 

Byddwn ni’n ad-dalu’r tâl cludiant llawn os caiff cynnyrch diffygiol neu wedi ei ddifrodi ei ddychwelyd, ond ddim os yw’r cynnyrch yn ddiangen yn unig.

 

Eitemau diffygiol

Os yw eitem yn ddiffygiol, cysylltwch â ni ar 03000 250022 neu e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru i drafod trefnu dychwelyd yr eitem neu gael un yn ei le.